Pethe

Informações:

Sinopsis

Criw Pethe yn trafod y celfyddydau

Episodios

  • Pethe 29 - Festival Number Six

    12/09/2014 Duración: 19min

    Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda pump arall fuodd yn yr wyl dros y penwythnos diwethaf - Siwan Haf, Iestyn Lloyd, Daniel Parry Evans, Llyr ab Alwyn ac Osian Howells. Pob un wedi cael profiad hollol wahanol o'r wyl ym Mhortmeirion.

  • Pethe 28 - Plu yn Gŵyl Arall

    24/07/2014 Duración: 32min

    Elan Mererid Rhys o'r band 'Plu' fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014

  • Pethe 27 - Gwenno Saunders yn Gŵyl Arall

    23/07/2014 Duración: 35min

    Gwenno Saunders fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014. Mae hefyd cyfle i glywed Gwenno'n perfformio rhai o'i chaneuon.

  • Pethe 26 - Categori Barddoniaeth, Llyfr Y Flwyddyn 2014

    26/06/2014 Duración: 28min

    Ifor ap Glyn sy'n trafod y llyfrau yng nghategori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn ein podlediad diweddaraf

  • Pethe 25 - Categori Ffuglen, Llyfr Y Flwyddyn 2014

    05/06/2014 Duración: 29min

    Menna Machreth a Non Tudur sy'n trafod y llyfrau yng nghategori ffuglen Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn y podlediad yma.

  • Pethe 24 - Categori Ffeithiol Greadigol, Llyfr y Flwyddyn 2014

    28/05/2014 Duración: 31min

    Gwion Hallam fuodd yn trafod llyfrau yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda Emyr Gruffudd a Meg Elis.

  • Pethe 23 - Cylch Canu

    11/04/2014 Duración: 17min

    Gwion Hallam sy’n holi’r cerddor Stephen Rees (Ar Log, Crasdant) a’r canwr Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu) am yr adfywiad yn y sîn gwerin yng Nghymru, a nhw ymhlith deg cerddor sy’n teithio’r sioe werin ‘Cylch Canu/Songchain’ o gwmpas y wlad.

  • Pethe 22 - Theatr Bara Caws

    31/03/2014 Duración: 12min

    Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda Betsan Llwyd am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, 'Dros Y Top'

  • Pethe 21 - Dros Y Top

    21/03/2014 Duración: 11min

    Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda thri o actorion ac ysgrifenwyr 'Dros Y Top' - cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, sef Carwyn Jones, Rhian Blythe a Rhodri Sion.

  • Pethe 20 - Blodeuwedd

    07/02/2014 Duración: 14min

    Gwion Hallam sy'n holi Yr Athro Gwyn Thomas am gynyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru, Blodeuwedd.

  • Pethe 19 - Intermission gan Owen Martell

    11/12/2013 Duración: 15min

    Gwion Hallam sy’n holi’r nofelydd John Rowlands am nofel Saesneg gyntaf Owen Martell - Intermission.

  • Pethe 18 - Cerddoriaeth

    02/12/2013 Duración: 29min

    Gwion Hallam sy'n trafod cerddoriaeth newydd sydd ar gael rhwng nawr a chyfnod y Nadolig gydag Osian Howells a Gethin Evans

  • Pethe 17 - Cerddi'r Goron

    11/10/2013 Duración: 16min

    Lisa Gwilym, Aneurin Thomas ac Ifor ap Glyn sy'n trafod ‘Terfysg’ – Cerddi’r Goron. Triniaeth drawiadol o’r casgliad o gerddi a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych i Ifor.

  • Pethe 16 - Cyfres newydd

    07/10/2013 Duración: 13min

    Yn y podlediad yma, Lisa Gwilym a Gwion Hallam sy'n edrych ymlaen at gyfres newydd o 'Pethe'

  • Pethe 15 - Manon a Lleuwen Steffan

    30/07/2013 Duración: 34min

    Lisa Gwilym fuodd yn cynnal sesiwn trafod gyda Manon a Lleuwen Steffan yn ystod penwythnos Gwyl Arall yng Nghaernarfon.

  • Pethe 14 - Gwyneth Glyn

    25/07/2013 Duración: 42min

    Cyfe i fwynhau sgwrs a sesiwn acwstig gyda Gwyneth Glyn fel un o ddigwyddiadau Pethe yn Gwyl Arall 2013.

  • Pethe 13 - Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn

    16/07/2013 Duración: 33min

    Nici Beech ac Ifor ap Glyn sy'n ymuno gyda Gwion Hallam ar gyfer trafod categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, sef Trydar Mewn Trawiadau gan Llion Jones, Parlwr Bach gan Eigra Lewis Roberts ac O Annwn i Geltia gan Aneirin Karadog.

  • Pethe 11 - Categori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn

    15/07/2013 Duración: 22min

    Gwion Hallam sy’n holi Eirian (Palas Print) James a Rhian George am y nofel Blasu gan Manon Steffan Ros, y nofel Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi a’r nofel Cig a Gwaed gan Dewi Prysor.

  • Pethe 12 - Categori Ffeithiol Llyfr y Flwyddyn

    12/07/2013 Duración: 22min

    Meg Elis a Non Tudur sy’n trafod y llyfrau ar y rhestr ffeithiol hefo Gwion Hallam. Beth fydd eu barn am Cofnodion gan Meic Stephens, Yr Erlid gan Heini Gruffudd, a Tuchan o Flaen Duw gan Aled Jones Williams?

  • Pethe 10 - Yr Ods

    02/07/2013 Duración: 34min

    Lisa Gwilym sy’n sgwrsio efo Osian Howells – aelod o Yr Ods – am yr ail albwm hir ddisgwyliedig. Mae’r albwm “Llithro” yn cael ei rhyddhau yn fuan, a dyma gyfle arbennig i glywed a mwynhau caneuon oddi ar y casgliad newydd. Lisa Gwilym speaks with Osian Howells – a member of “Yr Ods” – about their forthcoming second album. “Llithro” will be released in the next month, but here’s a great opportunity to listen and enjoy tracks from the new collection.

página 1 de 2